Graffiau Tywydd ers 1950

Rhybydd - nid yw pob graff yn ymddangos yn Internet Explorer 8. Er mwyn defnyddio IE8 rhaid newid y gosodiadau o fewn y gwe-borwr. Dewiswch "Tools" - "Internet Options" - "Security" a sicrhewch nad yr'w blwch-tic "Enable Protected Mode" wedi ei ddewis.

Tymheredd



Mae'r graff hwn yn dangos cyfartaledd y tymheredd MAX misol 1987-2008
a'r gwerthoedd cyffelyb i eleni, 2009, yng Ngwelfor, Waunfawr




Tymheredd: dengys y graff hwn y tymheredd cyfartalog dyddiol yn Llys Awel, Waunfawr, cyf. grid SH 528594.
Ceir y cyfartaledd dyddiol o adio'r tymheredd uchaf a'r isaf a gofnodwyd mewn diwrnod o 24ain awr a rhannu â 2.
Ambell drothwy diddorol - mae gwair yn dechrau tyfu ar dymeredd o 5.6C a choed yn tyfu pan fydd yn 10C.





Mae'r graff yn dangos y nifer o ddyddiau o farrug fel y'i cyfrifir pob mis pan fydd tymheredd yr awyr 1.25 uwchben y ddaear mewn Scrin Stevenson yn disgyn o dan y pwynt rhewi (sef -0.1Cneu lai).

Gwlybanwch (Precipitation)



Dyma fesuriadau o Niwgwl, Sir Benfro, sef swm glaw misol 2000 i 2011 o'u cymharu â'r swm misol yn 2011. (Data yn perthyn i John Lloyd Jones, Pelcombe, Sir Benfro.)



Dyma fesuriadau o Niwgwl, Sir Benfro, sef glaw misol 2009 o'u cymharu â'r cyfartaledd misol ers 1991. (Data yn perthyn i Roy Watkins, Glan y mor, Niwgwl. Cyn athro bywydeg.)

Dyma gofnodion Les Larsen o SWM Y GLAW a gafodd yn ei ardd ym Mhenisarwaun rhwng 1992 a 2009.




Dyma fesuriadau o Niwgwl, Sir Benfro, sef cyfanswm glaw blynyddol ers 1991. (Data yn perthyn i Roy Watkins, Glan y mor, Niwgwl. Cyn athro bywydeg.)




Dyma fesuriadau glaw John Jones, Pelcombe, Hwlffordd. Diddorol bod y ddwy graff misol o Sir Benfro yn dangos mai Gorfffennaf oedd y mis gwlyb iawn, nid Tachwedd fel a welwn yn y graffiau eraill. Ychwanegwyd 6 mis cyntaf 2010 wedyn (cyfnod o sychder)


Dyma fesuriadau o Pelcombe, Sir Benfro, sef cyfanswm glaw y 10 mlynedd hyd 2009. (Data yn perthyn i John Jones, Pelcombe.)

Dyma fesuriadau glaw misol Pelcombe, Sir Benfro, 2010. (Data yn perthyn i John Jones, Pelcombe.)


Dyma gyfanswm y glaw a gofnododd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cader yng Nghwm Cau rhwng 1981 a 2008. Sylwch y cynnydd a fu dros y cyfnod. Bu bwlch yn y cofnodi rhwn 1989-93. Collwyd hefyd dri mis yn Chwefror, Mawrth ac Ebrill 2001 oherwydd clwy'r traed a'r genau.


Dyma fesuriadau glaw Cyngor Cefn Gwald Cymru ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cader yng Nghwm Cau, dros y flwyddyn 2009


Dyma fesuriadau glaw Llanfaglan ger Caernarfon pob mis ers 1991. Sylwch ar lawiad eithriadol Tachwedd 2009. Dim ond Hydref 2005 a Hydref a Thachwedd 2000 oedd yn cystadlu.



Dyma fesuriadau glaw yn Llanfaglan ger Caernarfon. Mae'r safle 24 medr uwch lefel y mor a thua milltir i fewn i'r tir.
Mae'r mesuraidau yma yn cael eu gyrru i'r swyddfa dywydd fel rhan o'r cofnodi sy'n mynd ymlaen drwy'r ynysoedd yma.
Mwy o wybodaeth:- http://www.metoffice.gov.uk/education/secondary/students/observing_rainf...



Cyfanswm misol y glaw (mm) yng ngardd Gwelfor, Waunfawr 1987- 2008 gan DB sydd yma,
gyda'r cyfanswm misol ar gyfer eleni, 2009, wedi ei gasglu mewn mesurydd confensiynol.



Graff eira: Yn y graff hwn dangosir dyfnder gwastad yr eira ar y ddaear fel y'i mesurir am 9 o'r gloch y bore gyda
phren mesur centimedrau. Dinoethir y llecyn ar ôl cymryd y mesuriad i ganiatau y mesuriad nesaf. Ddiwedd pob mis
ceir cyfanswm yr eira.



Dyma'r nifer o ddyddiau y cafodd Huw Holland Jones genllysg yn Llys Awel, Waunfawr. Mis
Mawrth yw'r penllanw. Mae cenllysg peli mawr (dinistriol weithiau) yn digwydd yn amlach i
fewn yn y tir (nid lle cafodd data Huw eu gasglu) rhwng Mai a Medi. Yr amodau angenrheidio
i genllysg yw i'r tir gynhesu yn ystod y dydd mewn cyferbyniad ag awyr oer uwchben. Yn yr
ardaloedd ymhell o'r môr mae'r cawodydd cenllysg trymaf yn digwydd wrth i'r cymylau gynyddu
a'r dydd yn mynd yn ei flaen gan grynhoi yn yr ardaloedd mewndirol..a "bang". Roedd
stormydd cenllysg yn fwy dinistriol ers stalwm nag ydyn nhw rwan


Eraill



Dengys y graff hwn ddyfodiad y gwanwyn eleni (2009) ac mewn gwanwynau cynnar a hwyr eraill.
Mae pob diwrnod o 1af Ionawr sydd dros 5.6C (sef y tymheredd y mae'n cyrraedd cyn bod bywyd
planhigion yn effro) yn cael ei ychwanegu at gyfanswm y tymheredd a gyrrhaeddwyd y diwrnod cynt
nes cyrraedd 30 Ebrill yn y flwyddyn dan sylw. CRYNODEB 2009: DECHRAU HWYR NES I'R TYMHEREDD
DDECHRAU CODI HANNER FFORDD TRWY MIS CHWEFROR. GWELLHAD CYSON WEDYN GYDAG AMBELL
NOSON HWYR O FARRUG YM MIS MAWRTH. Y LLYSIAU YN YR ARDD YN ARAF I EGINO A THYFU





Mae’r meteorolegydd Huw Holland Jones wedi crynhoi yma ddyfodiad y gwanwyn yn rhai o’r blynyddoedd ers 2007 o gymharu a’r cyfartaledd dros y cyfnod ugain mlynedd 1995-2014. Defnyddiodd fesur o’r enw t-sum sydd yn crynhoi cyfartaledd y tymheredd pob dydd (lle bo hwnnw yn 5.5C neu fwy) o 1 Ionawr ymlaen fel arfer i ddiwedd Mai. Gwanwyn 2007 oedd y gwanwyn cynharaf, ond sylwch fod pob gwanwyn ag eithrio 2013 a’i fis Mawrth oer, yn gynt na’r cyfartaledd 20 mlynedd.



Graff heulwen: dengys y graff y nifer o oriau heulwen pob mis yn Llys Awel. Pob diwrnod amcangyfrifir y nifer o
oriau y bu'r haul yn disgleirio gan roi cyfanswm dyddiol i bob mis.



Pwysedd Awyr: mae'r graff hwn yn dangos cyfartaledd cofnodion pwysedd awyr dyddiol mewn milibarau am 9 o'r gloch,
wedi eu cywiro o 175m (uchder y mesurydd) i level y môr. I ddarllen y graff ychwanegwch 1000 i'r rhif a ddangosir
(er enghraifft, os mai 16 mb a ddangosir, yna 1016mb yw'r darlleniad).



Dengys y graff hwn y nifer o ddyddiau pan glywyd taran neu darannau. Gellir clywed taran 12 milltir i ffwrdd. Mae sain yn teithio
milltir mewn 5 eiliad tra bod cyflymder golau i bob pwrpas yn mynd ar amrantiad (186,000 milltir yr eiliad). Gellir gweld mellt o bel
heb glywed taran, felly mae meteorolegwyr ond yn cofnodi tarannau clywadwy.


Dengys y graff hwn y glawiad crynhoadol yn Llys Awel, Waunfawr fesul mis, y mis cyfredol yn dangos y data sydd wedi eu crynhoi hyd yma.


Dyma gofnodion Les Larsen o EIRA CYNTAF Y GAEAF ar fynyddoedd Eryri ers 1942. Mae gyfres yn dangos tuedd pendant ac arwyddocaol yn stategol o eira hwyrach dros y blynyddoedd hyn.