Bwletin 111 (Mai 2017)

Cliciwch yma i agor y Bwletin llawn
Click here to open the full bulletin
Cliquez ici pour ouvrir le bulletin entière
http://www.llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn111.pdf

Bwlein 111 Mai 2017
gan gynnwys bwlein
Cymdeithas Gwaith Maes “Lly
gad y dydd”
1
Un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd
Slefrod môr ar draeth Y Greigddu 27 Mawrth 2017
Gerallt Pennant
Ewch i dudalen 2 (colofn 1) i weld beth arall sydd wedi cyrraedd ein glannau tua’r un pryd
Y cap glas
Rhizostoma octopus
yw slefren Gerallt.
Mae Castell Cricieth i’w weld yn y pellter .
Ai Greigddu, Morfa Bychan yw’r unig draeth yng Nghymru
lle y caniateir ceir arno?
Chwilwch am
slefr
yn yr
Oriel
i adnabod y slefrod ar y dde.
2
Carn yr ebol afon Llyfni
Llun: Duncan Brown, Pontllyfni 21 Mawrth 2017
Cyfartaledd ugain o ddyddiadau gweld blodau carn yr
ebol ers 1905 hyd eleni yw’r 10ed Mawrth. Gan mai
blodau cynta’r flwyddyn sydd debycaf o ysgogi
sylwebwyr i’w cofnodi mae’r data yn agos at fod yn
adlewyrchu’r “blodeuo cyntaf (a welwyd)”. Cafwyd 3
chofnod ym mis Chwefror, yn y blynyddoedd 1936
(20ed), 2016 (27ain) a 2017 (21ain, llun uchod). Y
cofnod hwyraf oedd 2 Ebrill 2004.
DB
Rhai o rhain yn Malltraeth a Berffro dyddia dwytha
ma [hyd 24 Mawrth 2017]. Ddim cymaint a dw i'n
gofio'r tro o'r blaen.
Wil Williams
Meddai Sion Roberts: Maent wedi irio yn Dinas Dinlle ac
yn Morfa Bychan hefyd. Mae'r creadur yma yn byw ymhell
o'r lan, yng nghanol Môr yr Iwerydd. Dim ond pan fydd y
gwynt yn chwythu yn gryf, ac yn gyson, y bydd yn cael ei
thirio ar ein glannau, ond pan mae hyn yn digwydd maent
yn gallu ymddangos yn ei miliynau, fel yn 2004 â 2006. Fel
arfer mae'r gwynt yn chwythu'r hwyl fôr i lywio cylch
enfawr ar draws Môr yr Iwerydd, heb ddod i gyffwrdd â'r
arfordir byth. Ond os yw'r gwynt yn rhy gryf, mae'r 'llong'
yn dechrau troi yn eu hunfan ar y wyneb, ac felly yn fwy
tebyg o ddilyn y gwynt. Mae'r hwyl yn rhedeg ar ongl
draws y 'ford' i ddal y gwynt. Mae rhai, gyda'r hwyl wedi ei
droi i'r dde, eraill i'r chwith, felly fe’u didolir gan y gwynt i
heidiau sydd o'r un ‘set’.
Chondrophore
yw'r creadur yma:
'The order Chondrophora was created by A.K. Toton in 1954
to accommodate three unusual genera of Hydrozoa'. Hynny
yw nid yw gwyddoniaeth yn siwr iawn lle I roi'r anifail yn y
sustem tacsonomaidd.
Sion Roberts
Cafodd Wil Jones rai yn Harlech 4 Tach 1996 ac ym Mae
Ceredigion ym mis Medi 1935 cofnodwyd:
E. H. T. Bible has sent in a cuing from the " Shrewsbury
Chronicle" of 11th October 1935 reporing thousands of Vellelae
washed up by persistent south-west wmds in mid September of
that year along the coast from Towyn, Merioneth to St. Bride's
Bay, Pembrokeshire.
(W. M. Condry)
21 Tach 1954...
at Saundersfoot were vast numbers of an allied
jellyfish (equipped with a two-inches wide floaing bladder)
called Velella spirans (By-the-wind Sailor)
[Velella velella yw'r
enw cywir meddai Sion Roberts].
This is another rainbow-
coloured creature from warmer seas which drits in large shoals
and is occasionally stranded on our south and west coasts.
WM Condry
Hwyliau mor Malltraeth
Meddwl fasa chi'n lecio'r cofnod isod gan Mary Davies
"Plas". Be oedd hwch yn gwneud mewn melin tybed?
9 Gorffennaf 1914 Cwm Cynllwyd: Glaw bore. Braf at y
pnawn. Corddi yn y fudde newydd. Andros o helynt. Y
cocos yn clecian. Y dynion yn torri gwair gweirglodd
beudy bach. Fi yn mynd i danu stodie ar ôl te. Joe yn nol
yr hwch o'r felin. Morwyn Cwmffynon (Nancy Tynfedw)
yma minos. Nol eirin mair. Joe yn mynd hefo hi adre.
Dyma beth oedd gan Twm Elias i’w ddweud am yr hwch:
Yn amlwg bod yr hen hwch yn llodig (= yn gofyn baedd)
ac wedi cael ei hebrwng at faedd y Felin. Wedi bod yno a
chael ei gwasanaethu roedd angen ei nol adra. Byddai’r
hwch yn gwybod ei ffordd yno ac yn awyddus i fynd – yn
mynd yn gyflym: “..fel trot yr hwch at y baedd”.
Cogs y fuddai newydd yn swnllyd. Mary yn ‘taenu ystodiau
[gwanaf o wair neu yd], ac yna yn nol gwsberins.
Blas ar fywyd ganrif yn ol!
Cyhoeddir Bwletin Llên Natur gan Gymdeithas Edward
Llwyd
(Rhif Elusen: 1126027)
Mae Prosiect Llên Natur ar Facebook a Twitter. Cysylltwch â ni trwy
llennatur@yahoo.co.uk
Cofiwch Gweithdy WiciNatur 6 Mai,
Plas Tan y Bwlch
Gwledd o ddysgu - môr o hwyl!
Dyma gwesiwn a ofynnais i’r Dr Howard Williams
(awdur y traethawd hir
“Adar yng Ngwaith y
Cywyddwyr” (Prifysgol Aberystwyth). ’Dwi wedi
cymryd yn fy mhen ers tro bod y creyr bach wedi ein
cyrraedd yn ddiweddar oherwydd Newid Hinsawdd.
Ond dyma sylweddoli bod y rhywogaeth hon yn byw
yn Mhrydain yn y Canol Oesoedd ac yn rhan o
wleddoedd Uchelwyr Lloegr. Yn wir gwnaeth Thomas
Bewick (marw 1828) ysgythriad ohono (isod). Cafodd
y creyr bach ei ddifa o'r ir mae’n debyg oherwydd y
fasnach blu mewn heiau merched yn ôl pob son. AC
ETO o'r hyn a welaf nid yw Howard yn son unwaith
am y creyr bach yng Nghymru yn ei Waith Mawr. Pam
mudandod y beirdd Cymraeg am aderyn mor amlwg a phrydferth?
Dyma ateb Howard:
Does dim cyfeiriad at y creyr bach gan y beirdd hyd y gwn i er eu bod yn barod iawn i ddarlunio hyd syrffed wynder yr alarch.
Mae hynny'n gyson a'r sylw gan Dr William Turner (1544). Yn y llyfr arloesol hwn mae Turner yn mynd trwy Aristoteles a
Pliniws ac, yn lle derbyn yr hyn maen nhw'n ei ddweud fel y gwir digwesiwn fel y rhan fwyaf o ysgolheigion y cyfnod, mae'n
troi at ei wybodaeth empirig ei hun. O ran crehyrod mae'n dyfynnu Aristoteles:
'Of Ardeae there are three kinds, Pella (y creyr
glas), Alba and Stellaris
(aderyn y bwn)....' Ac wedyn mae'n
dweud (am yr 'Alba' ac ar ol siarad am grehyrod glas
albino):
'I have only once seen - and that was in Italy the Albardeola
, which is called 'leukerodios' in Greek; it is much smaller
than the Pella and by no means shuns the sight of man so
much as does the blue. Had I not seen it, I should have
declared the Albardeola to be the English Shovelard
.'
Mae'r golygydd (1903, gan gyfieithu sylwadau Turner o
Ladin i Saesneg) yn nodi mai llwybig ('spoonbill') yw'r
'shovelard' ac mae'n glir taw dyna oedd barn Turner.
(Mae'n troi at y llwybig nes ymlaen.) Rwy'n credu mai'r
Albardeola yw'r creyr bach.
Mae tawelwch y beirdd Cymraeg a methiant Turner a gweld
yr creyr bach yn Lloegr yn anghyson a'r fwydlen ar achlysur
ordeiniad Archesgob Caerefrog yn 1465. Yn ol Wiki:
Neville's enthronement as Archbishop of York took place in
Cawood Castle in September 1465 and to demonstrate the
riches and power of his family, twenty eight peers, fity nine
knights, ten abbots, seven bishops, numerous lawyers,
clergy, esquires, and ladies, together with their atendants
and servants came to the castle. Together with the
archbishop's own family and servants there were about
2500 to be fed at each meal. They consumed 4000 pigeons and 4000 crays, 2000 chickens, 204 cranes, 104 peacocks, 100
dozen quails, 400 swans and 400 herons, 113 oxen, six wild bulls, 608 pikes and bream, 12 porpoises and seals, 1000 sheep,
304 calves, 2000 pigs, 1000 capons, 400 plovers, 200 dozen of a bird called 'rees' (i.e. ruffs), 4000 mallard and teals, 204 kids
and 204 biterns, 200 pheasants, 500 partridges, 400 woodcocks, 100 curlews, 1000 egrets, over 500 stags, bucks and roes,
4000 cold and 1500 hot venison pies, 4000 dishes of jelly, 4000 baked tarts, 2000 hot custards with a proporionate quanity of
bread, sugared delicacies and cakes, and 300 tuns of ale and 100 tuns of wine. As well as indicaing the power of the Nevilles
the menu gives a valuable insight into 15th century English avifauna
.[7][8]
Ond rwy'n amau gor-ddweud dybryd yn y rhestr hon! Mae gor-wneud rhestrau yn gyffredinol yn nodweddiadol o'r Oesoedd
Canol. Ynghylch y cyfnod wedyn dwn i ddim yn gwybod. Efallai i'r creyr bach ddod i Loegr (hwyrach y ran fwyaf deheuol). O ran
ysgythriad Bewick (llun ohono ynghlwm), roeddwn i'n meddwl ar y dechrau nad creyr bach oedd yr aderyn am ei fod mor
dywyll ond mae'r ysgythriad o'r alarch ganddo yn dywyll hefyd. Ar y llaw arall, does dim son am y creyr bach yn y llyfr (gwych)
gan Keith Thomas (Cymro o Sir Forgannwg): 'Man and the Natural World: Changing Aitudes in England 1500-1800'.
Yn fyr, mae hanes y creyr bach yn dywyll i minnau hefyd. (Ac mae'r cyfeiriad Turner at 'the English [spoonbill]' yn sgwarnog
arall.)
3
Y Creyr Bach: enillydd Newid Hinsawdd ynteu aderyn
gwir Gymreig?
Eifion Griffiths
4
Cerbydau ceffyl
Cwrel Dinas Dinlle
Nodyn a llun gan Peter Edwards awdur llyfr newydd ar
gerbydau ceffyl. Meddai Peter:
Dyma lun sy'n cynnwys cyfeiriad we
y llyfr cerbydau
, Mae'n
rhaid rhoi enw'r tudalen gwe ar y llinell cyfeiriadau, dydy
'chwilio' ddim yn gweithio. Ar hyn o bryd, dim ond y ffurf e-lyfr
sydd ar gael ond rwy'n gobeithio cael y ffurf galed (diwygiedig)
yn y 'siop' erbyn Ebrill. Beth ydy'r perthynas gyda Llên Natur?
Wel, mae'n gludiant naturiol ac adnewyddadwy, ac mae'r
budredd yn ailgylchadwy. Yn ôl at y dyfodol?
Does dim angen esgus i Llên Natur Peter. Mae’r hen
gerbydau hyn yn ymddangos ymhobman yn Y
Tywyddiadur ac mae’n bwysig deall beth yn union
oedd eu defnydd os am ddeall ffordd o fyw yr hen
bobl. Dyma enghreitiau o
phaeton
,
dogcart
a
landau.
Robin yn ceisio dynwared itw
“Esblygiad?” gofynnodd Wil Williams. Tynnwyd hwn
ym mis Mawrth eleni ym Methel, Môn
Wil Williams
Cogau cyntaf - adref ac i ffwrdd
Graff o
ddyddiadau pan
y clywodd Gwyn
Edwards y gog
gyntaf pob
blwyddyn ers
1995 yw hwn.
Mae’r echel chwith (‘y’) yn dangos y nifer o ddyddiau
ar ôl y 1af Ebrill. Mae’r pwyniau glas yn gofnodion ar
hap yma thraw ond y cofnodion coch yn dangos y
dyddiadau y clywodd Gwyn y gog gyntaf o’i ardd ym
Mryn Dafarn, Rhosgadfan, ar ôl symyd yno yn 2010.
Mae’n awgrymu cymaint gwell yw cofnodi yn
rheolaidd o lle cyfarwydd nac ar hap ymhobman os
yw’n bosibl (gweler hanesyn grit llyffant Jean
Mathews o’i gardd yn Llanddona ar dudalen 7).
Llun: Alun Williams, data Gwyn Edwards
Casglwyd ar draeth Pontllyfni gan Gill Brown.
Meddai’r daearegydd Math Williams: “Tybiaf mai cwrel yw
hwn. Maent yn rhy gyson ac yn rhy gyfan i fod yn
crinoid
[fel y tybiodd y Golygydd cyn cael ei gywiro!].
Lithostroion
efallai yw enw'r cwrel”.
Ydi hi wedi cannu ar y cwrel:
coral bleaching
yma
Mae’r
pry gwenyn
Bombylius major
yn hedfan rwan.
Dyma erthygl
diweddar amdano.
Ystadegau ffenolegol y pryf hwn o’r Twyddiadur: cyfartaledd, 10
Ebrill; nifer o gofnodion 8; ystod, 28 Mawrth - 12 Mai; cyfnod,
1980-2017; tarddiad, Cymru a de Lloegr
Tymor y pry gwenyn
5
Gwelwyd ardal Berffro ddoe, 28/3/17.
Wil Williams
Dyma ychydig fanylion am y 9 cofnod arall sydd wedi
dod i law hyd yma (o Lanbedr, Rhiw, Aberdaron,
Caergybi, ac Aberffraw x5): Cyfartaledd 23 Ebrill
(1984-2017, n = 9); cynharaf 25 Chwef 2016
Aberffraw.
Mae yna 5 math o chwilen olew ym Mhrydain - mwy ym
Mwlein 90
(brig tud. 2) lle cewch weld y larfáu. Cewch gyfeir
io
hefyd at y
daflen hon
i geisio adnabod y chwilen uchod.
Cofiwch bod yr “iar” yn fwy ac yn drymach na’r “ceil
iog”.
Dyfodiad y gwanwyn hyd 31 Mawrth (Waunfawr)
Beth mae’r graff hwn yn ei ddweud, a
chofiwch y
graffiau blaenorol YMA
(tudalen 5).
2007 wedi ei sefydlu erbyn hyn fel y gwanwyn cynharaf o’r
gyfres
Diwrnod 78 (18 Mawrth - saeth piws) 2010 yn dechrau colli ir
fel y gwanwyn hwyraf (cofio’r
heth y flwyddyn honno
?)
Ychwanegwyd gwerthoedd mis Mawrth eleni i’r cyfartaledd.
Mae gwanwyn y llynedd wedi dilyn cyfartaledd 23 mlynedd
tan yn ddiweddar.
Mae gwanwyn eleni yn gyflym ennill y fraint o fod y gwanwyn
cynharaf o’r gyfres.
Ymddangosiad y chwilen olew
Cigfran powld Cwm Idwal... eto
Copyn gwrachen ludw
2 Ebrill gwelais y cyfaill pry cop ‘ma yn cerdded yn
rhadlon braf ar y carbed [Abergele]. Penderfynais
tynnu ei lun. Ond, yn gyntaf, y gamp oedd ei ddal a’i
osod ar le, lle y medrwn tynnu ei lun Nid wyf wedi
gweld yr un tebyg iddo o’r blaen. Mae ei faint ryw
13mm o hyd.
Sion Jones
Dysdera crocata
(Woodlouse spider). It’s a specialist feeder on
woodlice and has extra-long fangs to pierce their sot undersides.
They are capable of biing humans too (painful, but of no
consequence).
Richard Gallon
Tynnwyd y lluniau
yn Cwm Idwal ar
ddydd Gwener,
24/3/17. Roedd yn
amlwg i mi fod y
gigfran yma yn
dangos ymddygiad
a ddysgwyd,
gwelais yr aderyn
yn hedfan drosodd
i gwpl a oedd newydd eistedd i lawr i gael tamaid i'w fwyta
ac yn disgwyl a gobeithio cael sbarion. Tua hanner awr yn
ddiweddarach ddaru ni eistedd i lawr I gael tamaid o fwyd
ac o fewn ychydig funudau ddaru’r gigfran hedfan i fewn ac
aros hefo ni nes i ni orffen ein bwyd. Roedd yn eithaf
hyderus i ddod o fewn ychydig o lathenni i gasglu rhai
darnau o fwyd ddaru ni rhoi iddo. Faswn I ddim yn synnu
os fysar gigfran hon yno pob dydd yn disgwyl am sbarion
bwyd. Mwy
yma
Philip Griffith
A unique Gaelic-medium
educaion course that
teaches about the Gaelic
heritage associated with
nature and the
environment will return
to Skye this summer.
‘Àrainneachd, Cànan is
Dualchas’ (environment,
language and heritage),
which won the Innovaion
in Educaion Award in the
Daily Record Scoish
Gaelic Awards in 2016, is
hosted in Staffin in the
north of Skye by Urras an
Taobh Sear, and is presented by journalist, broadcaster and
educator Ruairidh (Roddy) Maclean
[cyfaill mawr i Llên Natur]
CWRS AMGYLCHEDD AC IAITH YN SKYE
cynnar ----------------- hwyr
Cofiwch glicio’r geiriau mewn coch
i gael mwy o wybodaeth
6
Tra'n cerdded ardal Llyn Coron, sylwi fel roedd cen ar
wal gerrig wedi newid ei liw o lwyd gola i 'goch' yn
dilyn teilo'r caea. Sylwi wedyn wrth gerdded ochra
Berffro ar faw Dyfrgi ar garreg, hefyd wedi newid ei
liw - a meddwl pa broses gemegol oedd yn cymeryd
lle.
Nos Sadwrn, ar Gardeners' World, roedd dyn yn
siarad am gen. Dywedodd bod tua dwy fil o wahanol
gen yn tyfu ym Mrhydain! Mewn mynwent
danghosodd fel oedd gwahanol rywogaetha'n tyfu ar
wahanol fath o gerrig. Yno roedd un garreg galch ac
un arall o dywodfaen, gyda gwahanol gen yn tyfu
arnyn nhw - er yn edrych yn debyg iawn.
Defnyddiodd 'spot test' i ddangos y gwahaniath
rhyngddyn nhw. Un yn troi yn 'goch' a llall ddim.
Diddorol te !
Wil Williams
I can see the FYM [farm yard manure] splatered on the
stones but the orange colouraion is not associated with
the blobs. I am fairly sure the colour is due to the lichen-
probably a Pertusaria
sequestering iron from the rock, The
iron is not evenly distributed in the rocks and so only parts
of the thallus are affected. This effect is very patchy but
some walls in mid Wales, paricularly of volcanic rock can
be quite spectacular in the development of these iron
stains. See if there are other walls nearby of the same rock
and with the white Pertusaria but without the FYM. I
would expect to see the same effect there.
Ray Woods
Gallwn fonitro’r cen o hyn allan - y cochni yn aros = natur y graig,
y cochni yn diflannu = llygredd tail
Coch y cen....
Tynnwyd hwn
gan fy merch Nia
(13) ar ei ffôn
wythnos diwetha
(diwedd Mawrth
2017]. Nid oedd
Nia am i ni
ddatgelu’r
lleoliad ond
roedd 195m o
uchder yng
ngogledd Eryri,
ar lan llyn
enwog. Roedd
pâr ohonynt yn
torheulo ar b’nawn godidog, anarferol gynnes pan
daeth y genod a'r ci ar eu traws, ond diflannodd un
cyn y gallai Nia tynnu ei lun. Credwn mae Gwiberod
Du oeddyn nhw, eitha prin yn ôl yr holl wybodus
Google.
Neil Davies (via Galwad Cynnar BBC)
Melanisic adders - several ideas around them being beter
thermoregulators in cooler climates- whether alitude or laitude
due to thermal properies of black bodies. This has to be
balanced though against losing the advantage that the normal
crypic colouraion gives for camouflage and predator avoidance.
Looks like the jury is out on the evidence I can find - but the story
is sill there! They are quite commonly found. It also appears that
they are born ‘normal’ and develop the black colouring with age.
Liz Howe (CNC)
Yn ôl Gethin Thomas mae rhain y niferus iawn ym
Mro Gwyr. Mwy
yma.
...a gwiber ddu
Yr oedd Noel Jones wedi cael y croen neidr yn yr ardd
"adeg hel mwyar duon" yn 2015 yn ardal Sarn
Mellteyrn. Wedi trio tynn llun y croen neidr ond tydy
nhw ddim yn rai da, doeddwn i ddim yn lecio ei dynnu
allan o'r plasic, rhag ond iddo dorri, roedd yn mesur
29 mod/74cm. Gwiber oedd hi.
Noel Jones >> Bethan Wynn Jones
Meddai’r arbenigwraig Liz Howe (CNC) “It certainly looks like
grass snake - large scales around eye and on top of head fit that,
whereas adder would have many small scales in those
posiions... see the end of this
very useful chart
from ARC-
patern persists and note that grass snake scales are ridged and
this leaves an impression on the slough”
Croen gwiber?
Yn Nhregarth
prynhawn ma [5
Ebrill ‘17]. Wrth
yml y tŷ. 200 m! Y
tro cyntaf i mi
weld hwyiaid
acw.
Dominig Kervegant
*hwyaid yn Llydaweg
Houidi* Tregarth
7
Lluniau llyfrgell CNC
O bell ac agos: Ffynnon Lloer yn y Carneddau yw llyn
cyfoethocaf Cymru o ran mwsoglau, diolch gyfeiriad
i’r de ddwyrain ac nad yw erioed wedi cael ei ddreinio
na’i argeuo. Mae’r bryolegydd i CNC Sam Bosanquet
yn meddwl y byd o’r llecyn ac wedi cyhoeddi am ei
fwsoglau. Mae’r llun agos uchod yn dangos
Bryum
muehlenbeckii
. Mae Sam eisiau gwybod pa lên gwerin
sydd ynghlwm wrth enw Ffynnon Lloer ar gyfer ffilm
mae Plantlink yn ei baratoi am y safle. Fedrwch chi
helpu?
Meddai Sam:
“The other top bryophyte lakes are Ffynnon
Llyffant (Bryum muehlenbeckii), Llyn Cwmffynnon (Grimmia
anomala and Odontoschisma elongatum at their only recorded
sites south of Scotland) and Llyn Gafr (Hedwigia striata shared
with Ffynnon Lloer)”.
Ffynnon Lloer a’i fwsoglau
Twmpath o grit llyffant dydd Sadwrn diwethaf [24
Mawrth 2017] rhwng Cadair Berwyn a Moel Sych,
2,700 troedfedd uwchlaw lefel y môr. Roedd chwaneg
heb fod yn dwmpath [ac felly yn hŷn?] yn is i lawr
Dei Tomos
Yn cynnwys cofnod Dei mae 4 cofnod grit llyffant uwchlaw
300m yn y Tywyddiadur o ogledd Cymru. Mae pob un ym mis
Mawrth, a dyddiad chyfartalog y pedwar yw 13 Mawrth. Y
cynharaf oedd 1 Mawrth yn 2010, sydd yn rhyfeddol gan mai
dyna’r gwanwyn hwyraf ers 1995 hyd ddiwedd Chwefror,
gweler Bwlein 110. Mae hyn yn awgrymu efallai na chafodd y
grit mynydd ei weld yn ddigon buan - llai o bobl yn mynydda
ym mis Chwefror na mis Mawrth efallai. Mae hyn yn dangos y
pwysigrwydd o nodi cyflwr twmpathog y grit (hy. ydi’r grit
yn brigo’r wyneb ai peidio fel yn ochr chwith yn y llun).
I gymharu dyddiadau ir isel dewisiwyd cyfres o XX o
gofnodion o ardd Jean Mathews yn Llanddona, Môn (148m.
ulm) rhwng 1993 a 2004. Y dyddiad cyfartalog yn yr achos yna
oedd 9 Chwefror (cynharaf 31 Ion, hwyraf 2 Mawrth). 31
diwrnod o wahaniaeth.
OND ydi hyn yn gymhariaeth teg? Mae’r cofnodion mynydd
yn dibynnu ar siawns a’r grit efallai yn ddigon hen. Yn achos
gardd Jean, naturiaethwraig gatref yn ei gardd ei hun, mae
yna ddipyn gwell siawns bod ei dyddiadau ‘cyntaf’ yn o agos
at y dyddiad dodwy.
Profi dim, ond yn gryf awgrymog bod llyffantod yn dodwy yn
hwyrach uwchlaw 1000tr, ond mae’n debyg fymryn yn llai
na’r 13 o wahaniaeth a welir yn fan hyn.
Berwyn a’i grit
Waunfawr 2008
Dyma rai o'r mynyddoedd a welwch yn y llun o'r chwith i'r dde : Yr Aran, Lliwedd, Yr Wyddfa, Crib y Ddisgl,
Siabod, Y Glyderau, Tryfan, Y Garn, Pen yr Oleu Wen, Carnedd Dafydd a Carnedd Llewelyn. Tynnais y llun ar
ddydd Sadwrn, Mawrth 25 ar daith Cymdeithas Edward Llwyd gan gerdded o Gronfa Ddwr Llyn Alwen, heibio
Caer Ddunod ac yna i gyfeiriad Cerrigydrudion, lle tynnais y panorama.
Alun Williams
Panorama o Gerrigydrudion Mawrth 2017
O nentydd mynyddig i orlifdiroedd isel mae afonydd wedi bod yn newid siâp tirwedd Cymru ers diwedd oes yr Ia.
Fedrwch chi enwi’r
tirffurfiau sydd i’w gweld mewn rhannau gwahanol o gwrs afon? Defnyddiwch y termau isod i
labelu’r system afon.
Atebion i gyrraedd
golygyddol@gwaithmaes.org
erbyn y 15.5.17. Mae gwobr o £10 i’r enillydd.
Gorlifdir
Tarddiad
Aber
Erydiad
Traeth afon
Llednant
Ceunant
Ystum afon
Rhaeadr
Ystumllyn
Llifglawdd
Dyddodiad
1
2
3
4
5
8
7
9
10
11
12