Datganiad i’r Wasg:

Natur yn dod â’ch gardd yn fyw!
Mae’r pryder am ein hamgylchedd lleol a byd-eang yn bryder gwirioneddol. Ond yn hytrach na phoeni’n ormodol am y peth, beth am wneud rhywbeth cadarnhaol trwy droi eich gardd yn ardd bywyd gwyllt? Fe allech chi ennill gwobr efydd, arian neu aur, yn ogystal â gwobr ar gyfer yr ardd.
Felly, cofiwch gymryd rhan yn ddi-oed:
“Cynllun Gwobrwyo Gardd Fywyd Gwyllt Gogledd Orllewin Cymru” -
Gallwn roi cyngor ichi ar sut i droi eich gerddi yn erddi bywyd gwyllt – pa un a ydyn nhw’n fawr neu’n fach – a chewch fynediad am ddim i Bortmeirion fis Gorffennaf lle cynhelir y seremoni wobrwyo. Bydd pob cystadleuydd yn cael gwobr ar gyfer yr ardd.
Er mwyn annog garddwyr yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn i ddenu mwy o fywyd gwyllt i’w gerddi, cynigir gwobr o £100 ym mhob categori yn y cynllun unigryw yma.
Y cwbl sydd raid ichi ei wneud er mwyn cystadlu cyn 3 Mehefin yw cysylltu ag Anna Williams, 01248 360981, 07772280970 neu annawilliams@wildlifetrustswales.org.
Dechreuodd yr ymgyrch i ddenu mwy o adar, gloÿnnod byw, draenogod, a chreaduriaid eraill i erddi yng Ngogledd Cymru ym mis Awst 2002, gyda’r bwriad o roi gwybodaeth i’r cyhoedd am ffyrdd a all eu helpu i warchod bywyd gwyllt a’i ddenu i’w gerddi. Fel rhan o’r ymgyrch, mae Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri yn cynnal cystadleuaeth â 4 categori ar gyfer gerddi preifat (bach a mawr), gerddi cymunedol, gerddi ysgolion a gerddi busnesau. Dyddiad cau’r gystadleuaeth eleni yw 3 Mehefin.
Yn ôl Anna Williams, y swyddog prosiect: “Mae’r gystadleuaeth gardd bywyd gwyllt yn agored i bawb, pa un a oes gennych ardd fawr neu fach. Ceir categori ar wahân ar gyfer gerddi preifat bach. Mae nifer fawr o bobl yn mwynhau helpu ein bywyd gwyllt brodorol, a rhai dulliau syml o wneud hynny yw trwy dyfu planhigion llawn neithdar ar gyfer pryfed a llwyni llawn aeron ar gyfer adar, plannu coed a gwrychoedd, creu pyllau, gwneud eich compost eich hun, a defnyddio llai o blaladdwyr yn eich gardd. Gweithiwch law yn llaw â natur, gwyliwch, ymlaciwch ac ewch ati i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth er mwyn dysgu mwy a chyfarfod â phobl o’r un meddylfryd â chi yn y seremoni wobrwyo ym Mhortmeirion ar 8 Gorffennaf.”
Y beirniaid fydd Anna Williams ac Anna Budesha (Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru), Margaret Thomas (Cymdeithas Eryri), Karen Rawlins (Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ac Anne Butler (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy). Am ragor o fanylion, ffoniwch Anna Williams ar 01248-360981 / 07772280970, neu e-bostiwch annawilliams@wildlifetrustswales.org.
Nodyn i olygyddion:
1. Ffurfiwyd Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri ym mis Awst 2002, ac mae’n cynnwys tri ar ddeg o bartneriaid, sef: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Plas Tan-y-Bwlch, Gardd Fotaneg Treborth, Antur Waunfawr, Cymdeithas Eryri, Cyfeillion Croesor, Gerddi Portmeirion, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ynys Môn, RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
2. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, Anna Williams ar 01248-360981 (Llun - Iau, 9-3pm) neu e-bostiwch annawilliams@wildlifetrustswales.org.
Pennawd ar gyfer y llun: - Gwenynen ar las yr ŷd