Datganiad / News Release
Môr-wenoliaid pigddu angen eich help.........

Dewch draw i weld hynt a helynt nythfa o fôr-wenoliaid pigddu ar gwrs gwirfoddoli Gwarchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn. Mae croeso i bobl o bob cefndir ddod draw i warchodfa Cemlyn i weld nythfa o fôr-wenoliaid. Bydd cwrs gwirfoddoli anffurfiol yn cael ei gynnal er mwyn rhoi cyfle unigryw ichi gyfarfod â’r wardeiniaid a dysgu sut allwch chi helpu i warchod yr adar.
Bydd y cwrs gwirfoddoli, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn cael ei gynnal Ddydd Sadwrn 8 Mai yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn. Yn ôl Ben Stammers o’r Ymddiriedolaeth Natur, sef y sawl sy’n cydlynu’r cwrs: “Mae’n hollbwysig inni warchod yr adar er mwyn rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol ddod yma i weld holl ryfeddod a phrysurdeb y nythfa.” Diolch i’r drefn, mae niferoedd y môr-wenoliaid yng Nghemlyn wedi sefydlogi erbyn hyn, ar ôl cael blynyddoedd digon aflwyddiannus yn 2007 a 2008. Fe wnaethon nhw ddioddef llawer yn sgil pobl yn aflonyddu arnyn nhw, a hefyd oherwydd ysglyfaethwyr a hafau gwael, ac o’r herwydd prin iawn oedd y cywion. Ond yn 2009, fe gadwodd criw o wirfoddolwyr lygad barcud ar yr adar, gan sicrhau lle diogel iddyn nhw nythu. Gobaith yr Ymddiriedolaeth Natur yw y bydd y sesiwn yma i wirfoddolwyr yn ysbrydoli eraill i roi o’u hamser i geisio gwarchod y safle pwysig.
Yn ôl Euros Jones, Arweinydd Tîm Partneriaeth y Cyngor Cefn Gwlad: “Yn y Deyrnas Unedig, mae yna oddeutu 12,500 o barau o fôr-wenoliaid yn nythu, ac mae mwy na 1,000 o’r rhain yng Nghemlyn. O’r herwydd, mae’n hollbwysig inni warchod eu safle nythu.” Mae môr-wenoliaid yn treulio’r gaeaf mewn ardaloedd cynhesach yng Ngorllewin Affrica, gan deithio i hemisffer y gogledd, ac i lefydd fel Cemlyn, i dreulio’r gwanwyn a’r haf. Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru a’r Cyngor Cefn Gwlad yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn defnyddio arian grant y Cyngor mewn nifer o ffyrdd gwahanol er mwyn creu lle cyfoethog i fywyd gwyllt a thrigolion Cymru. Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd llawer mwy o brosiectau o’r fath yn cael eu datblygu ar hyd a lled y wlad.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag un o Swyddogion y Wasg, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Brân Devey ar 02920 772 403 neu 07747767443, neu Helen Evans ar 07717225589.
Os hoffech gymryd rhan yn y cwrs, gallwch drefnu lle drwy gysylltu â Ben Stammers yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: benstammers@waleswildlifetrusts.org neu 01248 351541.
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cefnogi Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010, a gyhoeddwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o fywyd ar y ddaear. Mae’n hanfodol ar gyfer cynnal y systemau naturiol sy’n rhoi bwyd, tanwydd, iechyd, lles a gwasanaethau hollbwysig eraill inni. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.biodiversityislife.net.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi arwyddo cytundeb partneriaeth arloesol – sef Concordat. Mae’r Concordat yn rhoi braslun o ymrwymiad y Cyngor a’r Ymddiriedolaethau i gyfoethogi a hyrwyddo natur er budd trigolion Cymru.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.