Ieithoedd

Chwilio am gofnodion

Croeso , beth am chwilio am wybodaeth yn y cronfeydd?

NI ELLIR AR HYN O BRYD WARANTU CYWIRDEB Y COFNODION HYN, A DYLAI POB DEFNYDDIWR WIRIO'R WYBODAETH LLE BO'N BOSIBL TRWY EI GYMHARU A'R FFYNHONNELL WREIDDIOL,

Dyddiaduron sylweddol sydd yn "DYDDIADUR LLEN NATUR" (yn nhrefn blwyddyn cyntaf y gyfres o ddyddiaduron);

ROBERT BULKELEY (1631): Dyddiadur Robert Bulkely, Dronwy, Llanfachraeth, Mon (1630-36) (Trans AASoc 1937)

LADIES OF LLANGOLLEN (dwy wraig bonheddig a ymsefydlodd yn Llangolen:1784) O'r gyfrol A Year with the Ladies of Llangollen Gol Elizabeth Mavor

DOROTHY WORDWORTH (1798): Dyddiadur Dorothy Wordsworth (Penguin)

MARIA JANE WILLIAMS (cerddor; 1849) Dyddiadur Maria Jane Williams, Aberpergwm (h. Llyfrgell Genedlaethol Cymru) Mewnbwn Ann Thorne

EDWARD EVANS, HWLFFORDD (1851): Dyddiadur D. Edward Evans, Parsele, St Edrens, Gog. Penfro (1850+) (gyda chaniatad Amgueddfa Werin Cymru)

WILLIAM JONES, ABERDARON (1867): Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron (trwy garedigrwydd Mrs Wilma Miners a Miss Davida Roberts) Roedd Wlliam Jones yn ffermwr bychan ddiwedd oes Fictoria a dechrau'r 20 ganrif. Mae ei gofnodion amgylcheddol (tywydd, gweithgareddau fferm etc.) i'w gweld am nifer o flynyddoedd o'i holl ddyddiaduron yn y DYDDIADUR ar y wefan hon. Mwy: tudalen http://llennatur.com/cy/node/172 (Llyfrgell - ymchwil)

DAVID TEGID JONES, TRAWSFYNYDD (1872): Dyddiadur David Tegid Jones, Goppa Trawsfynydd (llawysgrif gwreiddiol Archifdy Prifysgol Bangor)

LLOYD GEORGE, LLANYSTUMDWY (1885): Dyddiaur Lloyd George 1885 (gyda diolch i Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy)

RICHARD LLEWELYN HEADLEY (1886): Dyddiaduron Y Parch. Richard Llywelyn Headley 1886-1955 (Gyda diolch i Dr. Mari Ellis, Aberystwyth)

EDITH HOLDEN, SOLIHULL (1905) Dyddiadur Edith Holden (The Country Diary of an Edwardian Lady

JOHN OWEN JONES, BWLCHTOCYN (1922) Dyddiadur John Owen Jones, Crowrach, Bwlchtocyn (Diolch i deulu Robat Glyn Williams)

HUGH JONES, LLANSILYN (1925): Dyddiadur Hugh Jones Cwm Cano. Llansilyn, Sir Dinbych. 1900 - 1967 (gyda chaniatad teulu Tom Jones)

GWLADYS HIGSON, COLCHESTER (1931): Dyddiadur Natur Gwladys Higson, Colchester (gyda diolch i Liz Gatehouse, Abergwyngregyn)

TG WALKER, YSGOL HENBLAS (1932): Dyddiadur (1941) a Llyfr Log Ysgol Henblas (1932), Llangristiolus Môn gan T.G.Walker prifathro (Archifdy Mon, Llangefni).

OWEN T GRIFFITHS (1937): Dyddiadur Owen Thomas Griffiths, Llangrisyiolus, Mon (trwy garedigrwydd ei weddw Mair Griffith)

EIFION JONES, CORWEN (1951): Dyddiadur Eifion Jones, Tawelfan, 4 Maes Aled Cerrig y drudion, Corwen Sir Ddinbych gyda diolch i Robin Gwyndaf

JOHN HUGH JONES, LLANGWM (1902 - 1966): Dyddiadur JH Jones, Hiraethog, Cerrigdrudion (diolch i Robin Gwyndaf)

JACK JONES (gwas ffarm a gofalwr y ffordd fawr) Dyddiadur Jack Jones, Tyn Rallt, Bodorgan (diolch i Tomos Roberts)

ERIC JONES (SIOP LLYFRAU CYMRAEG) (1961 yn bennaf) Dyddiadur Eric Jones, Wenllys, Pontllyfni a chyfeiriadau eraill)

JOAN ADDYMAN MBE (1970) Llyfr Cofnodion/dyddiadur Joan Addyman, Talsarnau, Gwynedd: siopwraig, a threfnydd Clwb Bywyd Gwyllt i ieuenctid

GARETH ROWLANDS (ffermwr, 1971 ymlaen) Dyddiadur Gareth Rowlands,Treddafydd Isaf, Bodorgan,Môn.

ELINOR JONES, LLANDDANIEL, MÔN (1974) Dyddiadur Elinor Jones, Ynys Acen, Llanddaniel, Môn Meddai Sara Wynne-Pari 27 Gorff 2011: Roedd Nain yn dweud neithiwr ei bod hi wedi symud i Ynys Acen o Bant Glas yn 1963, ac wedyn i Ty Fry, Gaerwen yn 1986

Dyddiaduron eto i'w codi: [Denning, R.T.W. (eds.) (1995) 'The Diary of William Thomas, 1762-1795; abridged and edited from a transcript by Davies, J.B. and Rhys, G.H. Cardiff: South Wales Record Society: South Glamorgan CC Libraries & Arts Department p. 332]