Dydd Gwener 29 Ionawr 2010
Y Cyngor Cefn Gwlad yn croesawu Cadeirydd newydd
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n falch dros ben fod Morgan Parry wedi
ei benodi’n Gadeirydd newydd am y tair blynedd nesaf.
Wrth gyfeirio at y sialensiau sydd i ddod, dywedodd Morgan Parry: “Mae mwy
o bwysau nag erioed ar yr amgylchedd ac mae yna ymwybyddiaeth gynyddol
nad yw natur yn ffynhonnell ddi-ddiwedd o gynnyrch a gwasanaethau. Mae’n
bwysicach nag erioed fod yr amgylchedd yn cael ei ystyried ym
mhenderfyniadau pob maes a chan bobl yn gyffredinol.
“Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad dasg enfawr ar hyn o bryd, wrth geisio
sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n hamgylchedd naturiol. Allwn ni ddim gwneud
hyn ar ein pen ein hunain – mae’n hanfodol fod y Cyngor yn ysgogi
cefnogaeth eang i’w waith. Rwyf yn edrych ymlaen at ymgysylltu ag
amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i gydweithio â ni.”
Ac meddai Roger Thomas, Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad: “Mae gan
Morgan brofiad helaeth yn y sector gwirfoddol a chyhoeddus – a safbwynt
byd-eang o ganlyniad i flynyddoedd o weithio gyda’r World Wildlife Fund. Fe
fydd, yn llywio gwaith y Cyngor Cefn Gwlad, gan adeiladu ar yr hyn y mae
John Lloyd Jones, ei ragflaenydd, wedi ei gyflawni. Edrychwn ymlaen at elwa
ar ei egni a’i berspectif newydd wrth wynebu’r sialensau o’n blaenau.”
Fe gafodd penodiad Morgan Parry ei groesawu gan y cadeirydd presennol,
John Lloyd Jones. 'Mae gan Morgan Parry brofiad gwerthfawr, yn arbennig
o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Wrth iddo ddod â hwnnw gydag ef i’r
Cyngor Cefn Gwlad, fe fyddaf innau’n teimlo’n hyderus wrth adael y sefydliad
mewn dwylo diogel ar gyfer yr adegau llawn sialens sydd o’n Blaenau”.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Evans, Swyddog y Wasg,
ar 01248 387377 neu 07717225589. Rhowch wybod inni os ydych yn
dymuno cyfweld Morgan Parry.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw'r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae'n
gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol