Cofnodion y mae DYDDIAD yn brif elfen ohonynt. (e.e. cofnodion tywydd arbennig, gan gynnwys eich tywydd CHI HEDDIW, digwyddiadau ffenolegol, blodeuo, ffrwytho, ymddangosiadau adar mudol ayyb)
Mae'r mapiau sy'n dangos cofnodion wedi eu seilio ar Gyfeirnodau Grid yn ddatblygiad newydd ar y wefan. Oherwydd hyn, rydym yn gorfod diweddaru llawer o'r cofnodion ar gyfer y mapiau ac mi fydd hyn yn cymryd amser. Er mwyn darparu mapiau effeithiol o'r cychwyn rydym am gyhoeddi isod geiriau i fewnbynnu yn y blwch sydd yn cynhyrchu mapiau diddorol a defnyddiol. Defnyddiwch nhw...a gwyliwch y gofod - mae mwy ar y ffordd.
Beth am chwilio am: ffwlbart, cynffon sidan, carlwm gwyn, cwtiad aur, morfil, aderyn y bwn, ysgyfarnog, esgyrn eira .
DYMA'R DUDALEN I WELD MAP DRAENOGOD - a chanlyniadau eich cyfrif draenogod fel rhan o BioGyfri2012. Mewnbynnwch draenog
Ar ôl codi eich map, cliciwch ar y smotiau coch a du i weld mwy am bob cofnod. I weld mwy fyth, cliciwch ar y rhif bach glas yn y gongl. I weld cofnodion gyda lluniau o'ch ardal chwiliwch am oriel.