Ieithoedd

Y Cyngor yn dathlu Gwyl Dewi gyda Chynllun Iaith diwygiedig

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2010 - Y Cyngor yn dathlu Gwyl Dewi gyda Chynllun Iaith diwygiedig

Wrth edrych ymlaen at Ddydd Gwyl Dewi, mae’r Cyngor Cefn Gwlad
wedi adnewyddu ei addewid i hybu’r iaith Gymraeg drwy gyfrwng ei holl
weithgareddau.

Mae’r Cyngor wedi diweddaru a chryfhau ei Gynllun Iaith Gymraeg. Mae’n
rhoi mwy o bwyslais ar hybu’r defnydd o’r iaith yn fewnol rhwng staff, yn
ogystal ag yn allanol, yn ei holl ymwneud â’r cyhoedd. Mae’r cam pwysig yma
wedi’i groesawu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gwelliant arall i’r Cynllun Iaith yw fod trefniadau recriwtio staff newydd yn
adlewyrchu ymroddiad y Cyngor tuag at hybu’r iaith. Bellach mae disgwyl i
bawb a gyflogir gan y Cyngor allu, o leiaf, ddefnyddio ymadroddion sylfaenol
ac ynganu enwau lleoedd yn iawn. Mae CD ar gael i bob ymgeisydd am
swydd, yn rhoi gwybodaeth elfennol am yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac
mae hwn yn cael ei brofi mewn cyfweliad.

Mae rhai swyddi yn gofyn i’r sawl a benodir i ddysgu Cymraeg o fewn amser
penodol; mae swyddi eraill yn gofyn am siaradwyr Cymaeg o’r dechrau.
Mae’r Cyngor yn parhau i roi cefnogaeth lwyr i staff sy’n awyddus i ddysgu’r
iaith neu sydd angen dysgu Cymraeg i gyflawni gofynion eu swyddi.
Mae 35 y cant o staff y Cyngor yn siarad Cymraeg; mae 30 y cant arall yn
ddysgwyr.

Meddai Roger Thomas, Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad: “Rydym am
sicrhau for y Cyngor yn ymateb i ysbryd y Ddeddf Iaith yn ogystal â chwrdd â’i
gofynion statudol. Yn ogystal â chael rhaglen waith yn ei lle, mae nifer o
weithgareddau anffurfiol ond cwbwl allweddol yn cael eu trefnu er mwyn i
ddysgwyr ymarfer yr iaith. Mae hyn yn eu helpu i wneud y naid i ddod yn
siaradwyr rhugl a gweld yr iaith fel rhan naturiol, perthnasol a phleserus o’u
gwaith.”

Gweler ein cynllun iaith ar:

http://www.ccgc.gov.uk/about-ccw/our-policies/welsh-language-scheme.aspx

Mwy o wybodaeth: Helen Evans, swyddog y wasg, ar 01248 387377 neu

07717225589.

Corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae’n
gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol
ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar
www.ccgc.gov.uk.