|
|
|
Bert Parry: Dyddiad geni: 1937 Cartref Genedigol: Llanberis, Gwynedd Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llanberis, Gwynedd Testun: Straeon am bysgota ac arferion plant ardal Llanberis yn y 1940au a 50au |
Ken Herbert: Dyddiad Geni: 1932 Cartref Genedigol: Llangristiolus, Môn Cartref yng nghyfnod y recordiadau: : Llangefn Testun: : straeon am TG Walker y naturiaethwr fel ei gyn ddisgybl yn y 1940au |
Mair Griffith: Dyddiad geni: xxxx Cartref genedigol: Llangristiolus, Môn Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llangristiolus, Môn Testun: Amrywiol straeon am y naturiaethwr TG Walker |
|
|
|
Annie Williams: Dyddiadau: 1884-1969 Cartref Genedigol: Llwyn Bedw, Waunfawr Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llwyn Bedw, Waunfawr Testun: Amrywiol straeon a chofiannau lleol gyda Mary Vaughan Jones a Wil Vaughan Jones |
Bessie Owens: Dyddiad geni: 1916 Cartref Genedigol: Niwbwrch Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Niwbwrch Testun: Cafodd Bessie ei geni a'i magu yn Niwbwrch. Mae'n son yn ei sgyrsiau am hen waith gwneud matiau o foresg yn Niwbwrch |
William Evans: Dyddiad geni: xxxx Cartref Genedigol: Gwalchmai Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Gwalchmai Testun: William Evans yn cofio'r tro y daeth o hyd i fras bychan clwyfedig (little bunting chwdl yntau) ac yn mynd a fo at yr arlunydd enwog a drigai ym Malltraeth, Charles Tunicliffe. Mae Tunicliffe yn defnyddio dull anwyddonol iawn i farnu pu'n ai iar ynteu ceiliog ydoedd. Yn ol llyfr Peter Hope Jones a Paul Whalley - Birds of Anglesey Adar Mon, hwn yw'r cofnod cyntaf erioed (ac un o ddau yn unig a gafwyd hyd y flwyddyn 2004) o'r rhywogaeth hon ym Môn. Fel hyn y disgrifir yr achlysur yn y llyfr: "The first record was for an injured bird found at Llanddeusant on 8th January 1957, and kept for some time in an aviary...." |
![]() |
![]() |
![]() |
Mair Griffiths Dyddiadau: 1913-2008 Mair Griffiths, Abergwyngregyn. Mae hi'n sôn yma am Aber yn y 30au. Recordiwyd hwn yn 2004 pan oedd Mrs Griffith yn 91 oed. Bu hi farw yn 2008 yn 95 mlwydd oed. Cafodd ei magu yn Llanrug ac aeth i fyw i Aber yn 19 mlwydd oed yn 1932.
|
Wil Williams Dyddiad geni: 1926 Fe'i ganwyd yn Sir Fflint yn 1926 ond 'mudodd gyda'r teulu i ardal Rhoshirwaun, Llŷn yn 6 oed. Ar ôl gweithio i'w dad yn danfon paraffin, bwrwodd ei brentishiaeth fel gof yn yr ardal yn efail ei deulu. Treuliodd gyfnod yn fuan ar ôl y Rhyfel yn y fyddin lle dysgodd sgiliau mecanyddol a fyddai'n ei alluogi i ddatblygu busnes newydd o drwsio ceir. Ar ôl ymddeol bu'n aelod brwd o Gymdeithas Edward Llwyd ac yn selog iawn ar eu teithiau.
|
Eira Taylor Dyddiad geni: xxxx Mae Mrs. Eira Taylor yn byw yn, ac enedigol o Feddgelert. Dyma un sgwrs fer gan Mrs Taylor yn son am y daranfollt neu'r meteoreit a drawodd westy ym Meddgelert ym Medi 1949. Os am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i'r DYDDIADUR. |
![]() |
||
Derec 'Teiars' Owen Derec ("teiars") Owen yn siarad am ei blentyndod yn ardal Llangristiolus. Byw ar hyn o bryd yn Llanfairpwll. Dyn ffraeth iawn a gweithgar gyda gwasanaeth radio Ysbyty Gwynedd. Addysg gynnar yn Ysgol Henblas efo T.G.Walker.
|