Ieithoedd

Mapiau Llefydd

Llên y llefydd
Yma cewch amryw o gofnodion o gronfa Llen y Llefydd wedi eu lleoli ar fap. Cewch enwau caeau, creigiau, a.y.y.b. I fewnbynnu cofnod ar gyfer ei roi ar y map hwn ewch i CRONFEYDD GWYBODAETH (Cyfrannu/Llên yLlefydd) a sicrhewch eich bod yn cofnodi'r cyfeirnod grid yn y blwch priodol.

Mae'r mapiau hyn yn ddatblygiad newydd ar y wefan. O'r herwydd, rydym yn gorfod diweddaru llawer o'r cofnodion ar gyfer y mapiau ac mi fydd hyn yn cymryd amser. Er mwyn darparu mapiau effeithiol o'r cychwyn rydym yn cyhoeddi isod mewn print bras geiriau i fewnbynnu yn y blwch sydd eisoes yn cynhyrchu mapiau diddorol a defnyddiol. Defnyddiwch nhw...a gwyliwch y gofod - mae mwy ar y ffordd. Chwiliwch felly am: weirglodd neu blaidd neu eos neu ysgyfarnog mewn enwau llefydd. Beth am ychwanegu at yr enwau llefydd sydd yn cynnwys yr elfen eos er enghraifft.


Lluniau
I gyfrannu llun ar gyfer ei gyhoeddi ar fap Llên y Llefydd, mewnbynnwch eich llun i'r Oriel gyda nodyn yn y capsiwn yn dweud mai ar gyfer map Llen y Llefydd ydyw. Mae'r lluniau hyn yn gallu dangos golygfa syml ar ffurf ffotograff, paentiad, dyluniad - ers stalwm neu yn ddiweddar - o le arbennig (ond cofiwch y Cyfeirnod Grid yna!). Gyda thipyn o sgiliau trin lluniau ymlaen llaw, mi allwch hefyd gynnwys yr un olygfa ddoe a heddiw yn yr un llun (er enghraifft, hen gerdyn post wedi ei aildynnu yn ddiweddar) i ddangos newid yn y dirwedd dros amser. I weld rhai o rhain wedi eu mapio teipiwch x2 yn y blwch chwilio isod. Gallwch hefyd, ar y llun neu yn y capsiwn, gynnwys enw ar y cae, neu'r ty^ neu unrhyw nodwedd arall sydd i'w weld yn y llun, enwau yr ydych yn cofio o'ch plentyndod, neu ar lafar heddiw yn yr ardal, neu o lyfr. I gyfrannu llun ar gyfer y map ewch i ORIEL a chliciwch "Rhowch lun i fewn" a gofalwch eich bod chi'n nodi yn y capsiwn eich bod yn dymuno ei weld ar y map Llefydd.

Dyma gychwyn ar y broses o greu mapiau i gydfynd a'r wybodaeth yn y Cronfeydd Gwybodaeth a'r Oriel. Ar ôl cael eich map, cliciwch ar yr arwyddion coch a du i weld mwy am bob safle, ac wedyn cliciwch ar y rhifyn glas i weld y cofnod cyflawn, a llun os oes un. I weld y lluniau yn unig chwiliwch am LLUN. I weld y lluniau dwbl "newid yn y dirwedd" chwiliwch am x2 (neu x3 etc. i weld cyfresi mwy).